Eich Asesiad

Cwestiynau Cyffredin

 

Rydym yma i’ch helpu i ddeall y broses asesu. Mae hwn yn fan da i gychwyn os ydych chi’n chwilio am atebion i’ch cwestiynau. Gallwch hefyd gysylltu â’n tîm Cysylltiadau Cwsmeriaid ar 0800 288 8777 o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8am ac 8pm, a Sadyrnau rhwng 9am a 5pm. Os bydd angen, bydd Rheolwr Cysylltiadau Cwsmeriaid yn hapus i’ch ffonio’n ôl o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 5pm.

Beth os wyf yn anhapus â phenderfyniad yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) ar fy hawl i gael budd-dal?

Os ydych chi’n anhapus am y penderfyniad a wnaethpwyd gan y DWP, gallwch ofyn iddynt ailystyried eu penderfyniad. Os ydych eisiau gwneud hyn, dylech gysylltu â’r swyddfa a enwir ar eich llythyr penderfyniad.

Beth fydd yn digwydd i fy nghwyn am eich gwasanaeth?

Ein nod yw delio â’ch cwyn yn deg, yn gyson ac yn brydlon. Byddwn yn cydnabod eich cwyn o fewn 2 ddiwrnod gwaith.

Ein nod yw ymateb i’ch cwyn o fewn 20 diwrnod gwaith. Weithiau gall ein hymchwiliad gymryd mwy o amser am fod angen i ni:

– Gael copi o’r adroddiad neu holiadur o’r swyddfa sy’n delio â’ch cais
– Cael gwybodaeth gan y Gweithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol neu staff eraill sy’n gysylltiedig â’r achos

Os byddwn yn canfod unrhyw beth sy’n anghywir yn eich adroddiad, byddwn yn hysbysu’r swyddfa sy’n delio â’ch cais. Yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) fydd yn penderfynu a yw ein canfyddiadau’n newid eu penderfyniad ynglŷn â’ch hawl i gael budd-dal.

Ni all y Gwasanaeth Ymgynghorol Asesiad Iechyd newid penderfyniad y DWP ar eich budd-dal na gofyn am asesiad newydd.

Beth os nad wyf yn fodlon â’ch ymateb i fy nghwyn?

Cysylltwch â’r Gwasanaeth Ymgynghorol Asesiad Iechyd Customer Relations team, gan nodi’r rhannau o’ch cwyn sydd heb gael sylw boddhaol. Bydd uwch reolwr yn adolygu’r ymchwiliad i’ch cwyn yn bersonol ac yn cynnal ymchwiliad pellach, os bydd hynny’n briodol.

A allaf fi fynd â fy nghwyn ymhellach?

Mae’r Gwasanaeth Ymgynghorol Asesiad Iechyd yn cynnal asesiadau ar ran yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP). Os ydych yn parhau’n anfodlon â’r broses gwyno, gallwch gysylltu ag Archwiliwr Achosion Annibynnol y DU yn:

Independent Case Examiner
PO Box 209, Bootle, L20 7WA
E-bost: ice@dwp.gov.uk(link sends e-mail)
Ffôn: 0345 606 0777 neu 0845 606 0777

Dysgwch fwy(link is external) am yr Archwiliwr Achosion Annibynnol.

Pa mor hir fydd yn rhaid i mi aros am fy asesiad?

Byddwn yn ymdrechu i’ch gweld o fewn 15 munud i amser eich apwyntiad. Bydd oedi weithiau. Gall rhai achosion gymryd mwy o amser na’r disgwyl. Bydd ein derbynnydd yn rhoi gwybod i chi os oes unrhyw oedi. Bydd y derbynnydd yn eich diweddaru.

Yn y Ganolfan Asesu, efallai y byddwch yn gweld pobl sydd wedi cyrraedd ar eich ôl chi yn cael eu galw i mewn am eu hasesiad o’ch blaen. Y rheswm am hyn yw bod gwahanol Weithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol yn cynnal gwahanol fathau o asesiadau ar gyfer gwahanol fudd-daliadau.

Mewn rhai amgylchiadau, fel oedi anarferol neu salwch staff, bydd yn rhaid canslo apwyntiadau. Os bydd yn rhaid i ni ganslo, byddwn bob amser yn ymdrechu i roi gwybod i chi cyn i chi gychwyn ar eich taith i’r apwyntiad.

Ar adegau prin, bydd apwyntiadau’n cael eu canslo ac ni fydd modd i ni eich hysbysu cyn i chi gyrraedd y Ganolfan Asesu. Os byddwn yn canslo eich apwyntiad ar ôl i chi gyrraedd y Ganolfan Asesu, byddwn yn ad-dalu eich costau teithio. Byddwn yn aildrefnu’r apwyntiad cyn gynted â phosibl.

A gaf fi weld fy Adroddiad Asesu?

Gallwch ofyn am weld yr adroddiad a gwblhawyd gan y Gweithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol ar ôl iddo gael ei anfon at yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP). Os hoffech chi gael copi, gallwch ffonio swyddfa’r DWP sy’n edrych ar ôl eich cais. Mae’r rhif ffôn ar gyfer swyddfa’r DWP i’w weld ar y llythyrau a gawsoch ganddynt sy’n ymwneud â’ch cais am fudd-dal.

Ar gyfer Canolfan Byd Gwaith, gallwch ffonio 0800 012 1888 i gael y rhif cywir. Os oes gennych anawsterau â’ch lleferydd neu’ch clyw, gallwch ffonio Canolfan Byd Gwaith drwy ffôn testun ar 0800 023 4888.

Sut ydw i’n gofyn am recordiad sain o’r asesiad?

Byddwn yn ystyried ceisiadau am recordiad sain o asesiadau wyneb yn wyneb pan fydd hynny’n bosibl. Rhaid i chi wneud cais o’r fath cyn yr asesiad.

Os hoffech i’ch asesiad gael ei recordio, ffoniwch ein tîm Cysylltiadau Cwsmeriaid ar 0800 288 8777. Dylech wneud cais cyn gynted â phosibl fel y bydd yn rhan o’r broses o drefnu eich apwyntiad. Gellir trefnu bod asesiadau’n cael eu recordio boed hwy’n cael eu cynnal yn un o’n Canolfannau ni neu yn eich cartref.

Gallwch ddefnyddio eich offer eich hun i recordio’r asesiad. Mae gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) nifer o amodau rhesymol:

– Rhaid i chi ddefnyddio offer sy’n gallu cynhyrchu dau gopi o’r recordiad.
– Rhaid rhoi un copi i’r Gweithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol ar ddiwedd yr asesiad.
– Rhaid i’r offer sicrhau nad amharwyd â’r recordiad.
– Rhaid i’r recordiad fod yn gofnod dibynadwy a chywir o’r asesiad llawn.

Cewch wybodaeth, ac esboniad o bolisi’r DWP, ar wefan y Llywodraeth(link is external).

A ellir cynnal yr asesiad yn fy nghartref?

Os na allwch deithio i Ganolfan Asesu neu os yw hynny’n anodd i chi, gallwch ofyn am ymweliad cartref.  Cofiwch sôn am hyn ar eich ESA50W ffurflen.  Dysgwch fwy am ymweliadau cartref.

A yw’r Gwasanaeth Ymgynghorol Asesiad Iechyd yn penderfynu ar ganlyniad fy nghais am fudd-dal?

Nac ydy. Yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) sy’n gwneud y penderfyniad ar eich cais am fudd-dal. Darllenwch ragor am ein partneriaeth â’r DWP.

Faint o amser fydd gen i i gwblhau’r holiadur?

Fel arfer bydd gennych hyd at bedair wythnos i gwblhau a dychwelyd yr holiadur.Byddwn yn anfon nodyn i’ch atgoffa ar ôl tair wythnos. Bydd y dyddiad pan ddylai’r holiadur ein cyrraedd fod wedi’i nodi ar y llythyr sy’n dod gyda’r holiadur. Os yn bosibl, dylech ganiatáu tri diwrnod i’r holiadur ein cyrraedd ar ôl y dyddiad postio.

Os na fyddwn yn cael yr holiadur, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn penderfynu ar y cam nesaf. Gall y DWP gysylltu â chi i ofyn pam na chafodd yr holiadur ei ddychwelyd. Os oes gennych gyflwr iechyd meddwl, gall y DWP ofyn i ni barhau â’r Asesiad Gallu i Weithio heb yr holiadur.

Pa ddogfennau sy’n cael eu hanfon yn y pecyn holiadur?

Y pecyn holiadur yw’r peth cyntaf y bydd y rhan fwyaf o bobl yn ei gael pan fydd yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn cychwyn ar y broses asesu. Bydd yn cael ei anfon atoch ar ôl i chi wneud cais newydd am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA). Bydd yn cael ei anfon hefyd os ydych chi’n cael Budd-dal Analluogrwydd yn awr a’i bod yn bryd i chi gael eich ailasesu ar gyfer ESA.

Bydd tri pheth yn y pecyn:

– Yr holiadur gallu cyfyngedig i weithio (yr ESA50W)
– Llythyr eglurhaol (a elwir hefyd yn ESA51W) sy’n egluro beth i’w wneud a’r dyddiad erbyn pryd y mae angen dychwelyd yr holiadur
– Amlen ragdaledig i ddychwelyd yr holiadur

Os oes gennych chi unrhyw wybodaeth feddygol arall sy’n berthnasol i’ch cais, dylech ei hanfon gyda’r holiadur yn yr amlen amgaeedig.

Pa holiadur fydd yn rhaid i mi ei lenwi ar gyfer fy Asesiad Gallu i Weithio?

Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn anfon yr holiadur ESA50W atoch pan fydd wedi gofyn i ni gynnal Asesiad Gallu i Weithio. Bydd hyn yn gysylltiedig ag asesiad Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA). Bydd y DWP yn ailasesu eich cais o bryd i’w gilydd. Bydd holiadur yn cael ei anfon atoch bob tro. Efallai y cewch fwy nag un holiadur yn ystod cyfnod eich cais am ESA.

Bydd angen i chi lenwi pob holiadur a anfonir atoch. Dylech gynnwys cymaint o fanylion â phosibl. Eglurwch sut y mae eich anabledd neu salwch yn effeithio ar eich bywyd bob dydd, a sut mae’n effeithio arnoch o ran cael a chadw swydd.

Postiwch yr holiadur wedi’i lenwi yn yr amlen ragdaledig a amgaeir. Dylech gynnwys unrhyw wybodaeth feddygol arall yr hoffech i ni ei hystyried. Dylech ganiatáu tri diwrnod i wneud yn siŵr ei fod yn ein cyrraedd mewn pryd .

Bydd ein Gweithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol yn adolygu eich holiadur. Byddwn yn adolygu unrhyw wybodaeth arall a anfonwyd gennych neu a gafwyd ar eich rhan. Bydd y Gweithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol yn penderfynu a oes angen i chi fynychu asesiad yn bersonol.

Beth fydd yn digwydd os na allaf gadw’r apwyntiad ar gyfer asesiad?

Yn achos Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA), mae’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn caniatáu i chi aildrefnu’r apwyntiad unwaith. Os bydd angen i chi aildrefnu apwyntiad ESA, ffoniwch ein tîm Cysylltiadau Cwsmeriaid ar 0800 288 8777. Rhaid i chi ffonio cyn diwrnod eich apwyntiad.

Os na fyddwch yn bresennol yn yr apwyntiad, anfonir ffurflen (BF223W) atoch. Bydd yn gofyn pam nad oeddech yn bresennol. Bydd yn rhaid i chi ei llenwi a’i dychwelyd yn yr amlen ragdaledig a roddir gan y DWP. Os byddant yn derbyn bod gennych ‘rheswm da’ dros beidio â bod yn bresennol, gallant gyfeirio eich achos yn ôl atom ni. Byddwn ni wedyn yn trefnu apwyntiad newydd.

Yn achos pob lwfans a budd-dal arall byddwn yn ymdrechu i gwblhau eich asesiad cyn gynted â phosibl. Gwneir hyn er mwyn i’r DWP wneud penderfyniad ar eich cais. Os na allwch fod yn bresennol yn eich apwyntiad, cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl gan ddefnyddio’r rhif ar lythyr eich apwyntiad.

A ydych chi’n darparu cyfieithwyr?

Rydym yn darparu cyfieithwyr iaith arwyddion ar gyfer asesiadau pan fydd angen. Yn achos asesiadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA), cysylltwch â’n tîm Cysylltiadau Cwsmeriaid drwy e-bostio: customer-relations@chda.dwp.gov.uk neu ffôn testun: 18001 0800 2888 777. Gofynnir i chi roi o leiaf ddau ddiwrnod o rybudd.

Byddwn yn darparu cyfieithydd iaith ar gyfer asesiad pan fydd angen. Yn achos asesiadau ESA, ffoniwch ein tîm Cysylltiadau Cwsmeriaid ar 0800 288 8777. Rhowch o leiaf ddau ddiwrnod o rybudd. Ar gyfer asesiadau eraill, ffoniwch y rhif ar lythyr eich apwyntiad.

Os byddai’n well gennych, gallwch ddod â pherthynas neu ffrind i gyfieithu i chi. Rhaid i’r person hwnnw fod o leiaf 16 oed.

Rydym hefyd yn darparu gwasanaeth cyfieithu dros y ffôn ar gyfer cwestiynau’n ymwneud ag apwyntiadau. Gellir trefnu hyn ar gyfer asesiadau ESA drwy ffonio ein tîm Cysylltiadau Cwsmeriaid ar 0800 288 8777. Yn achos lwfansau a budd-daliadau eraill, ffoniwch y rhif ar lythyr eich apwyntiad.

Pa mor hir fydd fy apwyntiad yn bara?

Nid oes amser penodol ar gyfer asesiad. Bydd yn dibynnu ar eich achos personol chi. Bydd yn dibynnu hefyd ar ba fath o asesiad rydych yn ei gael a’ch cyflyrau meddygol. Bydd yr amser gyda’r Gweithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol fel arfer rhwng 20 munud ac awr. Dylech ganiatáu dwy awr, er y bydd nifer o asesiadau’n cymryd llawer llai o amser.

Bydd y Gweithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol yn treulio amser cyn i chi gyrraedd yn adolygu eich holiadur ac unrhyw wybodaeth arall sydd ar gael. Bydd yn treulio amser ar ôl eich asesiad yn cwblhau gweddill yr adroddiad meddygol. Bydd yr adroddiad wedyn yn cael ei anfon at y swyddfa Adran Gwaith a Phensiynau sy’n delio â’ch cais.

A gaf fi gymryd nodiadau yn ystod fy asesiad?

Mae croeso i chi neu eich cynrychiolydd gymryd nodiadau yn ystod asesiad. Bydd y nodiadau at eich defnydd personol chi’n unig. Ni fyddwn yn eu hanfon at yr Adran Gwaith a Phensiynau gyda’ch adroddiad meddygol. Bydd y Gweithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol yn cofnodi bod nodiadau wedi’u cymryd yn yr adroddiad meddygol . Bydd yn egluro hefyd nad yw’r nodiadau’n gofnod swyddogol o’r asesiad.

A gaiff cydymaith fod yn bresennol yn fy asesiad?

Gall aelod o staff y Gwasanaeth Ymgynghorol Asesiad Iechyd fod yn bresennol os ydych chi neu’r Gweithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol yn gofyn am hynny.

A gaf fi ddod â chydymaith gyda mi i fy asesiad?

Mae croeso i chi ddod â pherthynas, gofalwr neu ffrind i’r asesiad. Er ein bod yn cydnabod bod cydymaith yn gallu gwneud cyfraniad gwerthfawr, bydd yr asesiad a’r drafodaeth yn canolbwyntio arnoch chi bob amser. Bydd y Gweithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol yn egluro sut y bydd yr asesiad yn cael ei gynnal.

Os bydd angen i chi ddod â phlant gyda chi. Dylech hefyd ddod â rhywun a all ofalu amdanynt tra byddwch yn cael eich asesiad.

Beth ddylwn i ddod gyda mi i’r asesiad?

Dewch â’r canlynol:

– Llythyr eich apwyntiad.
– Prawf adnabod. Gall hwn fod yn basbort neu tri fath gwahanol o ddogfen adnabod fel tystysgrif geni, trwydded yrru neu fil cyfleustodau (trydan ayb).
– Unrhyw lythyrau apwyntiadau neu dderbyn i’r ysbyty.
– Tabledi neu feddyginiaeth arall, fel anadlyddion.
– Unrhyw gymhorthion meddygol, fel cymhorthyddion cerdded, sbectol a lensys cyffwrdd.
– Unrhyw lythyrau gan eich Meddyg Teulu neu Arbenigwr sy’n rhoi manylion am eich cyflwr meddygol nad ydych wedi’u cynnwys yn eich holiadur.
– Manylion eich cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu os ydych chi’n hawlio costau teithio.

Mae gen i gyflwr iechyd meddwl ac rwyf yn poeni am yr asesiad. Sut mae cyflyrau iechyd meddwl yn cael eu hasesu?

Mae ein Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol yn cynnal asesiadau ar gyfer pob cyflwr, gan gynnwys iechyd meddwl. Mae gennym hefyd staff sydd ag arbenigedd ychwanegol mewn iechyd meddwl ac anableddau gwybyddol a dysgu.

Bydd y Gweithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol yn gofyn sut y mae eich cyflyrau iechyd meddwl yn effeithio arnoch. Ar sail y drafodaeth hon, ac ar yr holl dystiolaeth sydd ar gael, bydd yn cyflwyno ei gyngor i’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP). Mae’r cyngor hwn yn seiliedig ar feini prawf y DWP. Mae’n cynnwys eich gallu i ymdopi â newid, eich dealltwriaeth a’ch ffocws, a’ch rhyngweithio cymdeithasol.

Gallwch ofyn i’ch cynrychiolydd am help i gwblhau’r ffurflen. Os hoffech i ni ddelio â rhywun arall ar eich rhan, bydd yn rhaid i chi roi eich caniatâd i ni i wneud hynny. Ffoniwch neu gofynnwch i’ch cynrychiolydd ein ffonio ar 0800 288 8777.

Sut ymdrinnir â chyflyrau anwadal yn yr asesiad?

Mae ein Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol yn ymwybodol bod llawer o gyflyrau meddygol yn cynhyrchu symptomau sy’n amrywio mewn dwysedd dros amser, o ysgafn i ddifrifol. Weithiau byddwch yn gallu cyflawni tasg, ond nid am gyfnod hir. Efallai y byddwch yn gallu ei chyflawni’n annerbyniol o araf oherwydd poen neu flinder. Ni fydd y Gweithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol yn gofyn i chi wneud unrhyw symudiadau sy’n anghyfforddus i chi. Os ydych chi’n poeni y bydd symudiadau penodol yn achosi poen i chi, dywedwch wrth y Gweithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol.

Mae ein Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol wedi cael eu hyfforddi i beidio seilio eu barn ar yr hyn a welant yn yr asesiad yn unig. Bydd y Gweithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol yn eich holi am unrhyw feddyginiaethau rydych yn eu cymryd a’u heffaith arnoch. Bydd hefyd yn ystyried yr hanes a’r dystiolaeth glinigol. Ei nod yw canfod sut y mae eich cyflwr yn newid o ddydd i ddydd. Bydd wedyn yn rhoi asesiad i Swyddog Penderfyniadau yr Adran Gwaith a Phensiynau o lefel gyffredinol yr anabledd am y rhan fwyaf o’r amser.

A fydd angen Asesiad Gallu i Weithio wyneb yn wyneb arnaf?

Yn y rhan fwyaf o achosion, mae’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn mynnu ein bod yn gofyn i chi fynychu asesiad wyneb yn wyneb. Ar ôl cael holiadur wedi’i gwblhau, bydd Gweithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol yn adolygu’r holl wybodaeth sydd ar gael. Gwneir hyn i benderfynu a oes angen gofyn i chi fynychu asesiad yn bersonol.

Ni allwn gynghori’r DWP nad oes angen asesiad wyneb yn wyneb oni bai bod y dystiolaeth yn ddigon i ateb gofynion y DWP.

Gall y Gweithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol gysylltu â’ch Meddyg Teulu os oes angen rhagor o dystiolaeth i benderfynu a oes angen asesiad.

Os na fydd angen i chi fynychu asesiad wyneb yn wyneb, bydd y DWP yn ysgrifennu atoch i egluro beth sy’n digwydd gyda’ch cais. Ni fydd y Gwasanaeth Ymgynghorol Asesiad Iechyd yn ysgrifennu atoch os na fydd angen i chi fynychu asesiad.

Os bydd angen asesiad, bydd y Gwasanaeth Ymgynghorol Asesiad Iechyd yn cysylltu â chi i drefnu apwyntiad cyfleus.

Ble allaf fi weld Siarter Cwsmeriaid y Gwasanaeth Ymgynghorol Asesiad Iechyd?

Mae ein Siarter Cwsmeriaid yn cael ei arddangos fel poster ym mhob Canolfan Asesu. Gallwch ei ddarllen hefyd yma.

Beth yw rôl y Gwasanaeth Ymgynghorol Asesiad Iechyd yn fy asesiad?

Rydym yn cynnal asesiadau ar ran yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP), a hynny ar gyfer amrywiaeth o wahanol gynlluniau budd-dal y Llywodraeth. Y DWP sy’n gwneud y penderfyniad ar bwy sydd â hawl i gael cymorth budd-daliadau.

Pa gymwysterau a phrofiad sydd gan y Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol?

Rhaid i’n Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol fod wedi’u cofrestru â’r Cyngor Meddygol Cyffredinol (ar y Rhestr o Ymarferwyr Meddygol Cofrestredig ond nid o reidrwydd ar y Cofrestrau Meddygon Teulu neu Arbenigwyr) a rhaid bod ganddynt drwydded gyfredol i ymarfer, nyrsys â’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth a ffisiotherapyddion â’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal.

Rhaid bod gan bob un o’n Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol 3 blynedd o brofiad ar ôl cofrestru a rhaid iddynt gwblhau proses hyfforddi fanwl a chynhwysfawr i ddarparu Asesiadau Gallu i Weithio yn unol â’r ddeddfwriaeth Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) cyn y cânt eu cymeradwyo gan yr Adran Gwaith a Phensiynau i weithio yn y maes hwn.  Mae ein Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol yn arbenigwyr mewn dadansoddi anableddau, gan ganolbwyntio ar effeithiau’r cyflwr, ac nid ar y cyflwr ei hun.

Sut ydych chi’n gwirio bod Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol yn cynnal asesiadau o safon uchel?

Er mwyn sicrhau bod ein Gweithwyr Gofal Iechyd yn cynnal asesiadau cyson, o ansawdd uchel ac annibynnol, rydym yn:

– Cynnal proses recriwtio a hyfforddi fanwl a chynhwysfawr i ddewis ymgeiswyr sy’n hyderus a galluog i ymgymryd â’r rôl.
– Adolygu a diweddaru hyfforddiant yn rheolaidd yn seiliedig ar adborth gan hyfforddeion a hyfforddwyr ac adborth o gwynion.
– Sicrhau bod rheolwyr clinigol yn defnyddio’r adnoddau clinigol mwyaf priodol ym mhob asesiad.

Hefyd, rydym yn monitro ac yn adolygu ansawdd ein hasesiadau’n barhaus yn erbyn y safonau y cytunwyd arnynt â’r Adran Gwaith a Phensiynau.

Mae sicrwydd ansawdd wedi’i ymgorffori yn ein prosesau drwy ddefnyddio archwiliadau meddygol. Rhaid i Weithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol gwblhau broses gymeradwyo ar fudd-daliadau newydd ac maent wedyn yn cael eu harchwilio ar hap. Mae archwiliadau’n cael eu cynnal gan Weithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol profiadol sydd wedi cael hyfforddiant arbenigol. Hefyd mae penodiad pob archwilydd yn cael ei ddilysu’n flynyddol.

Pa hyfforddiant mae’r Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol yn ei gael?

Er mwyn gallu cynnal asesiadau o geisiadau am fudd-daliadau, rhaid i bob Gweithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol gwblhau cwrs hyfforddi cydnabyddedig sydd wedi’i gynllunio’n bwrpasol ar eu cyfer a rhaid iddynt gael eu cymeradwyo gan Brif Gynghorydd Meddygol yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Os hoffech chi gael eich gweld gan Weithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol o’r un rhyw â chi, gallwch nodi hynny yn eich holiadur neu ffonio ein tîm Cysylltiadau Cwsmeriaid ar 0800 288 8777 ar gyfer asesiadau ESA. Ar gyfer pob lwfans a budd-dal arall, ffoniwch y rhif ar eich llythyr apwyntiad. Pan yn bosibl, rydym yn ceisio sicrhau ein bod yn darparu Gweithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol o’r un rhyw pan wneir cais am hynny.

Gallwch fod yn dawel eich meddwl bod dyletswydd ac ymrwymiad ar bob Gweithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol i gydymffurfio â’u cod ymarfer i ymddwyn mewn ffordd broffesiynol a phriodol pan fyddant yn cynnal asesiadau.

A oes cymhelliad i Weithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol gael cwsmeriaid oddi ar fudd-daliadau?

Nac oes. Mae ein Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol yn cael eu talu am gwblhau asesiadau, ac nid yn ôl canlyniad yr asesiadau hyn.

A gaf fi ganslo fy apwyntiad os nad wyf yn teimlo’n dda ar y diwrnod?

Gallwch, ond gofynnwn i chi roi cymaint o rybudd â phosibl os oes angen i chi ganslo. Byddwn yn trefnu apwyntiad arall i chi. Sylwer, dim ond unwaith y gallwch aildrefnu apwyntiad.

A fyddaf fi’n gallu hawlio costau teithio?

Mae’r Gwasanaeth Cynghori ar Asesiadau Iechyd yn talu costau teithio ar gludiant cyhoeddus. Gallwn gyfrannu at gostau tanwydd ceir preifat. Byddwn hefyd yn talu cost parcio os nad oes lle parcio ar gael yn y Ganolfan Asesu.

Byddwn hefyd yn talu costau teithio rhywun sy’n dod gyda chi, perthynas ichi, gofalwr, neu blant ifanc a fyddai ar eu pen eu hunain fel arall. Os ydych yn dymuno hawlio dros rywun i deithio gyda chi, rhaid ichi gysylltu â’r llinell ymholiadau ar 0800 288 8777 cyn eich asesiad.

Os oes angen ichi deithio mewn tacsi oherwydd na allwch ddefnyddio cludiant cyhoeddus neu os nad oes car ar eich cyfer, dywedwch wrthym oherwydd bod angen i’r ganolfan asesu gytuno i hyn. Os mai dim ond mewn tacsi y gallwch ddod, rhaid ichi ffonio’r llinell ymholiadau ar 0800 288 8777 cyn yr asesiad. Bydd Gweithiwr Proffesiynol Gofal Iechyd yn ystyried eich cais.

Dylech ddefnyddio’r bws, trên neu gar preifat. Prynwch docynnau dychwelyd os oes modd, a chadwch bob tocyn a derbynneb. Byddwn yn gallu eich talu’n gynt os byddwch yn dod â manylion eich cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu.

Bydd angen ichi lenwi a chyflwyno ffurflen dreuliau er mwyn cael unrhyw gostau yn ôl. Gallwch ofyn am help yn y dderbynfa yn y Ganolfan Asesu i lenwi’r ffurflen. Cadwch bob derbynneb. Dylech gael y taliad tua phythefnos ar ôl cyflwyno’r ffurflen.

Hysbysiad Pwysig

O’r 12fed Hydref ymlaen, dim ond yn uniongyrchol i gyfrif banc drwy BACS neu drwy siec y gellir gwneud taliadau. Ni fydd taliadau Giro ar gael. Mae hyn oherwydd bod Santander UK, sy’n berchen ar National Girobank, wedi tynnu’r gwasanaeth.

Mae modd talu i gyfrif banc aelod o’r teulu, ffrind neu ofalwr os nad oes gennych gyfrif banc cyfredol.

Pan fydd yr arian wedi’i dalu, byddwch yn cael derbynneb yn nodi manylion y taliad ac i ba gyfrif banc y mae wedi cael ei dalu.

Tocynnau Parcio

Os ydych yn teithio yn eich car eich hun neu’n cael pas i’r ganolfan asesu, gofalwch brynu tocyn parcio ar gyfer holl gyfnod eich ymweliad (i roi amser i gofrestru ac asesiad a fydd yn para rhyw awr). Oherwydd natur yr asesiadau, efallai na chaiff eich asesiad ei gynnal ar union amser yr apwyntiad a nodwyd yn eich llythyr. Os oes angen i chi, neu’r person a roddodd bas ichi, ddychwelyd i’r car i brynu tocyn arall er mwyn ymestyn yr amser, rhowch wybod i’r Dderbynfa cyn gadael y Ganolfan Asesu. Sylwch mai eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau eich bod yn talu am ddigon o amser. Ni fyddwn yn talu cost unrhyw ddirwyon parcio i chi na’r person sydd wedi dod gyda chi.

Rwyf yn defnyddio cadair olwyn. A yw’r Ganolfan Asesu’n hygyrch?

Gadewch i ni wybod cyn gynted â phosibl os ydych chi’n defnyddio cadair olwyn neu os oes gennych chi broblemau symudedd sylweddol drwy ein ffonio ar 0800 288 8777 cyn eich asesiad. Rydym eisiau gwneud yn siŵr eich bod yn cael eich anfon i Ganolfan Asesu y gallwch fynd i mewn iddi. Os nad yw hynny’n bosibl, efallai y gallwn gynnal yr asesiad yn eich cartref.

Rwyf yn ofalwr ac ni allaf adael y sawl rwy’n gofalu amdano ar ei ben ei hun tra byddaf yn yr asesiad. Beth ddylwn i ei wneud?

Gadewch i ni wybod cyn gynted â phosibl os na allwch gadw’r apwyntiad ar gyfer eich asesiad. Efallai y gallwn drefnu apwyntiad mwy addas neu gynnal yr asesiad yn eich cartref.

A gaf fi ddod â fy nghi cymorth gyda mi i’r Ganolfan Asesu?

Cewch, gallwch ddod â chŵn cymorth neu anifeiliaid gwasanaethu eraill gyda chi.

Nid yw fy Meddyg Teulu wedi rhoi dim tystiolaeth i mi i’w rhannu â chi. Beth ddylwn i ei wneud?

Y peth pwysicaf yw eich bod yn dychwelyd y ffurflen atom ni erbyn y dyddiad sydd ar y llythyr yr ydym wedi’i anfon atoch. Llenwch y ffurflen mor gyflawn ag y gallwch, gan roi cymaint o wybodaeth â phosibl.

Gallwch anfon tystiolaeth feddygol atom ar wahân. Gallwch gyflwyno tystiolaeth gan ymgynghorydd arall neu feddyg arbenigol, seiciatrydd, nyrs arbenigol fel Nyrs Seiciatrig Gymunedol, ffisiotherapydd, therapydd galwedigaethol, gweithiwr cymdeithasol, gweithiwr cymorth, cynorthwyydd personol neu ofalwr.

Weithiau gallwn ofyn am dystiolaeth gan y Gweithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol sy’n eich adnabod orau i’n helpu gyda’r asesiad.

Mae’n well gen i ddelio â phobl drwy e-bost, a allaf fi wneud hyn?

Byddwn yn ceisio eich ffonio i drefnu apwyntiad ar gyfer eich asesiad. Os yw’n well gennych i ni gysylltu â chi mewn ffordd wahanol, gadewch i ni wybod drwy anfon e-bost i customer-relations@chda.dwp.gov.uk(link sends e-mail). Gallwch hefyd ofyn i rywun arall ein ffonio i ddweud bod yn well gennych chi gysylltu drwy e-bost.

Ni allaf gyrraedd y Ganolfan Asesu, beth ddylwn i wneud?

Rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl, drwy ein ffonio ar 0800 288 8777. Efallai y gallwn drefnu cludiant ar eich cyfer neu gynnal yr asesiad yn eich cartref. Dysgwch fwy am ofyn am ymweliadau cartref.

Nid yw fy Meddyg Teulu yn gwybod llawer amdanaf. A gaiff Gweithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol arall roi tystiolaeth am sut y mae fy nghyflwr yn effeithio arnaf?

Gall. Gallwch gyflwyno tystiolaeth gan Weithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol arall. Gallai fod yn ymgynghorydd neu feddyg arbenigol, seiciatrydd, nyrs arbenigol fel Nyrs Seiciatrig Cymunedol, ffisiotherapydd, therapydd galwedigaethol, gweithiwr cymdeithasol, gweithiwr cymorth, cynorthwyydd personol neu ofalwr.

Rwyf yn poeni y byddwch yn fy ffonio. Mae gen i broblemau â fy nghlyw ac nid wyf yn defnyddio’r ffôn. Beth ddylwn i ei wneud?

Byddwn yn ceisio’ch ffonio i drefnu apwyntiad ar gyfer eich asesiad. Os byddai’n well gennych i ni gysylltu â chi mewn ffordd arall, rhowch wybod i ni drwy e-bostio customer-relations@chda.dwp.gov.uk(link sends e-mail). Gallwch hefyd ofyn i rywun arall ein ffonio i ddweud wrthym fod yn well gennych gyfathrebu drwy e-bost.

A fydd y Gweithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol yn ystyried fy meddyginiaeth?

Bydd. Dywedwch wrth y Gweithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol os oes gan eich meddyginiaeth sgil effeithiau neu os yw’n effeithio arnoch mewn ffyrdd eraill. Os ydych chi’n cael cemotherapi, cwblhewch yr adran arbennig ar dudalen 20 eich ffurflen.

Gallaf gerdded rhywfaint a gwneud rhai pethau, ond mae’n cymryd llawer o amser ac mae’n boenus. Sut fydd y Gweithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol yn gwybod hyn i gyd ar ôl dim ond un apwyntiad?

Mae ein Gweithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol wedi cael eu hyfforddi’n arbennig i ganfod sut mae eich cyflwr yn effeithio arnoch o ddydd i ddydd. Bydd yn gofyn i chi a allwch chi wneud tasgau’n ddiogel, hyd safon dderbyniol, mor aml ag sydd angen ac o fewn amser rhesymol.

Mae gen i sawl cyflwr, a fyddaf yn gallu trafod pob un ohonynt?

<p>Byddwch. Mae’n bwysig eich bod yn sôn wrthym am bob un o’r cyflyrau iechyd, salwch neu anableddau sy’n effeithio arnoch. Nodwch bob un o’ch cyflyrau ar y ffurflen. Os byddwch yn cael eich gwahodd am asesiad, trafodwch hwy â’r Gweithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol.</p>

Pa fath o seddi sydd ar gael yn y Ganolfan Asesu?

Mae amrywiaeth o seddi ar gael yn y rhan fwyaf o Ganolfannau Asesu, gan gynnwys cadeiriau â breichiau.

Ni allaf eistedd yn gyfforddus. A fydd rhywle lle gallaf orwedd?

Mae soffas yn y rhan fwyaf o Ganolfannau Asesu a byddwn fel arfer yn gallu dod o hyd i rywle lle gallwch orwedd os bydd angen. Rhowch wybod i’r derbynnydd os bydd angen i chi orwedd.

Mae fy nghyflwr meddygol yn golygu fy mod yn gwylltio ac yn ymddwyn yn ymosodol pan fyddaf o dan straen. A fydd eich staff yn cadw hyn mewn cof?

Bydd ein staff yn gwneud pob ymdrech i’ch trin â pharch. Ond yn gyfnewid am hynny, rydym yn gofyn i chwithau eu trin hwythau â pharch. Gadewch i ni wybod ymlaen llaw os ydych chi’n teimlo na allwch reoli’ch dicter. Mae’n bwysig iawn bod ein staff yn teimlo’n ddiogel ac yn gallu cynnal eich asesiad yn deg.

Mi hoffwn gael fy asesu gan Weithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol o’r un rhyw â mi. A allaf fi ofyn am hyn?

Gallwch. Am ragor o wybodaeth, ffoniwch ni ar 0800 288 8777.

A fydd yn rhaid i mi symud mewn ffyrdd sy’n achosi poen i mi?

Ni fydd y Gweithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol yn gofyn i chi wneud unrhyw symudiadau a fydd yn anghyfforddus i chi. Os ydych chi’n poeni y gall rhai symudiadau fod yn boenus i chi, dywedwch wrth y Gweithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol. 

Rwyf yn cael trafferth cofio pethau ac yn ei chael yn anodd ateb cwestiynau. A fydd fy nghydymaith yn cael fy helpu?

Gallwch ddod â chydymaith gyda chi i’r asesiad. Gall fod yn ofalwr, ffrind, gweithiwr achos neu gydymaith arall. Gall eich cydymaith eich helpu i ateb cwestiynau. Gall hefyd eich helpu i lenwi’r ffurflen.

A fydd y sawl fydd yn fy asesu yn feddyg? A fydd yn deall fy nghyflwr?

Mae ein Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol yn cynnwys meddygon, nyrsys a ffisiotherapyddion. Byddant i gyd wedi cael eu hyfforddi i gynnal eich asesiad mewn ffordd deg a sensitif. Maent wedi cael hyfforddiant arbennig i gwblhau eich asesiad â pharch ac urddas. Ni fyddant yn cynnal ymgynghoriad meddygol yn yr un ffordd â’ch meddyg teulu. Byddant yn asesu eich gallu i weithio.

A fydd gen i ddigon o amser i egluro sut y mae fy nghyflwr yn effeithio arnaf?

Bydd. Bydd y Gweithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol yn gofyn cwestiynau i ganfod sut mae eich cyflwr yn effeithio arnoch o ddydd i ddydd. Byddant yn rhoi’r amser sydd ei angen arnoch i ymateb neu i sôn am y ffyrdd eraill y mae eich anabledd neu gyflwr iechyd yn effeithio arnoch.

Dywedwyd wrthyf fy mod yn ddigon iach i weithio, yn y Grŵp Gweithgaredd sy’n Gysylltiedig â Gwaith, yn y Grŵp Cymorth. Beth mae hyn yn ei olygu?

Nid y Gwasanaeth Ymgynghorol Asesiad Iechyd sy’n gwneud y penderfyniad am eich hawl i gael budd-dal. Os ydych chi wedi cael llythyr penderfyniad gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP), ffoniwch y rhif ar y llythyr hwnnw i drafod hyn â’r DWP.  Dysgwch fwy am fudd-daliadau ar wefan y Llywodraeth(link is external).

Mae hyn i gyd yn anodd iawn i mi ac rwyf yn cael trafferth ymdopi. A gaiff rywun arall lenwi’r ffurflen ar fy rhan?

Os oes angen i chi lenwi’r ffurflen ESA50W, gallwch ofyn i ffrind, perthynas, gofalwr neu gynrychiolydd fel gweithiwr cymorth i’ch helpu.

Mae holiadur ESA50W yn ffurflen a gyhoeddir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau ac mae’n gysylltiedig â’ch cais. Os oes angen cyngor pellach arnoch ar sut i’w lenwi, gallwch gysylltu â Chanolfan Byd Gwaith, neu wasanaeth lles annibynnol lleol. Bydd gan y Ganolfan Byd Gwaith sy’n delio â’ch cais am fudd-dal gopi o’r holiadur a gallant fynd trwy’r cwestiynau â chi dros y ffôn a byddant yn barod i’ch helpu i lenwi’r ffurflen. Bydd eu rhif ffôn ar y llythyrau rydych wedi’u cael ganddynt ynglŷn â’ch cais am fudd-dal.

A allaf fi gael rhagor o wybodaeth am yr holiadur ESA50W y mae’n rhaid i mi ei lenwi ar gyfer fy Asesiad Gallu i Weithio?

Ar ôl i chi wneud cais am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA), bydd holiadur ESA50W yn cael ei anfon atoch yn awtomatig. O bryd i’w gilydd, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn ailasesu eich cais ac efallai y cewch fwy nag un holiadur yn ystod y cyfnod pan fyddwch yn hawlio ESA. Bydd angen i chi lenwi pob un a anfonir atoch pan ofynnir i chi wneud hynny.

Mae’r bwysig iawn eich bod yn cwblhau’r ffurflen mor gyflawn â phosibl, gan ateb yr holl gwestiynau. Mae’n hanfodol eich bod yn dychwelyd y ffurflen erbyn y dyddiad sydd ar y llythyr a anfonir atoch.

Os ydych chi angen help i lenwi’r holiadur gallu i weithio (ESA50W), gallwch siarad ag ymgynghorydd pwrpasol ar 0800 288 8777 erbyn hyn. Dewiswch opsiwn 1 ar gyfer Saesneg neu opsiwn 2 ar gyfer y Gymraeg. Yna pwyswch opsiwn 2 i siarad ag ymgynghorydd.

Efallai na fydd y DWP yn gallu parhau i dalu eich budd-daliadau os na fyddwn yn cael y ffurflen yn ôl mewn pryd. Os na allwch ddychwelyd y ffurflen mewn pryd, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl. Hefyd, mae blwch sy’n eich galluogi i ddweud pam fod y ffurflen yn hwyr. Os oes gennych chi unrhyw bryderon am y ffurflen, mae’n bwysig eich bod yn cysylltu â ni cyn gynted ag y gallwch neu eich bod yn gofyn i gynrychiolydd gysylltu â ni

A allaf fi gael unrhyw help i lenwi’r ffurflen?

Os bydd angen help i lenwi’r ffurflen arnoch, gallwch ofyn i ffrind, perthynas, gofalwr neu gynrychiolydd fel gweithiwr cymorth eich helpu.

Mae hon yn ffurflen a gyhoeddir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn gysylltiedig â’ch cais. Os oes angen cyngor pellach arnoch ar sut i’w llenwi, gallwch gysylltu â Chanolfan Byd Gwaith, neu wasanaeth lles annibynnol lleol. Bydd gan y Ganolfan Byd Gwaith sy’n delio â’ch cais am fudd-dal gopi o’r holiadur a gallant fynd trwy’r cwestiynau â chi dros y ffôn a byddant yn fodlon eich helpu i lenwi’r ffurflen. Bydd eu rhif ffôn ar y llythyrau rydych wedi’u cael ganddynt am eich cais am fudd-dal.

Rwyf yn teimlo cywilydd ynglŷn â fy nghyflwr. A oes yn rhaid i mi ysgrifennu popeth ar y ffurflen? A fydd yn rhaid i mi drafod popeth â rhywun dieithr?

Rydym yn sylweddoli bod rhai cyflyrau’n achosi cywilydd a’i bod yn gallu bod yn anodd eu trafod. Mae ein Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol wedi cael eu hyfforddi i ddeall hyn ac i’ch trin yn sensitif ac â pharch. Mae’n bwysig, fodd bynnag, eich bod yn rhoi cymaint o wybodaeth ag y gallwch ar y ffurflen ac yn eich asesiad. Mae asesiadau’n gyfrinachol a bydd eich gwybodaeth yn cael ei thrin yn sensitif.

A yw’r llythyr a’r ffurflen yn golygu bod yn rhaid i mi chwilio am waith?

Nac ydy. Mae angen i ni asesu eich gallu i weithio’n awr neu yn y dyfodol fel rhan o’ch hawl i gael budd-dal. Fodd bynnag, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau’n gwneud penderfyniad ar ôl iddynt gael yr holl wybodaeth a roddir gennych, eich ffurflen a’ch adroddiad asesu.

A allaf fi gael fy llythyr apwyntiad mewn fformat gwahanol?

Mae llythyrau apwyntiad ar gael mewn amrywiaeth o fformatau hygyrch. Am ragor o wybodaeth, ffoniwch ni ar 0800 288 8777.

Beth fydd yn digwydd os na fyddaf yn dychwelyd fy holiadur ESA50W?

Mae’n eithriadol o bwysig eich bod yn dychwelyd eich ffurflen. Mae’n cynnwys gwybodaeth ar gyfer ein Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol am eich cyflwr neu anabledd. Os na fyddwch yn dychwelyd y ffurflen mewn pryd, efallai na fydd yr Adran Gwaith a Phensiynau’n gallu parhau i dalu eich budd-daliadau.

Beth fydd yn digwydd i fy nghymorth tra byddaf yn aros am asesiad?

Tra byddwch yn aros am i’ch asesiad gael ei gwblhau, bydd cyfradd asesu a ddynodwyd o dan ESA yn cael ei thalu i chi. Cewch ragor o wybodaeth am hyn ar wefan y DWP(link is external).

Pa mor ddiogel yw y Gwasanaeth neges destun?

Mae’r gwasanaeth yn cael ei ddarparu gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP ) sy’n darparu amgylchedd diogel lle bydd y gwasanaeth yn gweithredu.

A allaf ateb drwy neges destun os na allaf wneud fy apwyntiad?

Na. Oherwydd natur gyfrinachol eich apwyntiadau ni allwn dderbyn atebion neges destun. Gallwch gysylltu â ni i drafod aildrefnu eich apwyntiad ar 0800 288 8777. Mae ein llinellau Ymholiadau Cwsmeriaid ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener o 8 y bore i 8yh, a dydd Sadwrn 9 y bore i 5yh.

A fydd y neges destun fod yn breifat? E.e. bydd yn cynnwys unrhyw wybodaeth sensitif?

Mae’r neges testun yn cynnwys atgof byr o’r dyddiad ac amser eich apwyntiad, yn ogystal â lleoliad eich Canolfan Asesu. Ni chedwir gwybodaeth sensitif yn cael ei chynnwys yn narpariaeth y gwasanaeth.

Sut y byddwch yn defnyddio’r wybodaeth?

Yr unig wybodaeth a gesglir yn gofnod o’r neges sy’n cael ei gyflwyno’n llwyddiannus. Bydd y data hwn yn cael ei ddefnyddio i gefnogi gwella ein gwasanaethau i chi.

How can I make a complaint?

Please feel free to email us on customer-relations@chda.dwp.gov.uk(link sends e-mail)
If requested, a call from a Customer Relations Manager will be made within 2 working days between Mondays and Fridays, 9am and 5pm.

Alternatively you can write to us at:

Customer Relations Team
Health Assessment Advisory Service
Room 4E04, Quarry House, Quarry Hill, Leeds LS2 7UA

Can I travel by taxi to the Assessment Centre?

Please contact the Health Assessment Advisory Service if you can only travel by taxi. You may be able to claim taxi fares if you have a letter from a medical professional who is treating you explaining why your medical condition means that you cannot travel by public transport. The Health Assessment Advisory Service cannot help with any charges from your medical professional for providing the letter. Send the letter to the Health Assessment Advisory Service and they will contact you to tell you if they can pay your taxi fares. Please do not travel by taxi without agreement.

DWP has suspended face-to-face assessments. Why have I been asked to attend an Assessment Centre?

DWP has now resumed face-to-face assessments at Assessment Centres.

Contact us straightaway if:

  • you or anyone coming with you has symptoms of COVID-19.
  • you or anyone coming with you is following guidance to self-isolate, including after entering the UK from abroad.
  • the NHS has contacted you or anyone coming with you and advised you or them to stay at home.
  • You have children and cannot make childcare arrangements. This is so we can discuss the best way to carry out your assessment.

For more information visit the government’s guidance for staying at home(link is external).

Please contact us immediately if you are unable to attend your assessment for one of these reasons.

Why do I have to give my details at the Assessment Centre?

When you, and anyone you bring with you, come to the assessment centre you will be asked for some information to help support the NHS contact tracing service. This is called:

  • Test and Trace in England
  • Test and Protect in Scotland
  • Test, Trace, Protect in Wales

This information will be kept for 21 days.

You do not have to give your information, but it could help stop the spread of COVID-19 if you do.

If you or anyone you bring with you does not want your details shared for the purposes of NHS contact tracing, you can choose to opt out. This means your information will not be shared with the NHS.

Do I need to wear a mask at a face-to-face assessment?

DWP needs face coverings to be worn in its buildings. This means you, and anyone who comes with you to your assessment, must wear a suitable face covering when you attend your appointment unless you have a reason for not wearing one in line with government guidance on:

If you do not already have a face covering, a disposable face mask can be provided when you arrive at the Assessment Centre.

By face covering, we mean something which safely covers the nose and mouth. You can buy reusable or single-use face coverings. You may also use a scarf, bandana, religious garment or hand-made cloth covering but these must securely fit round the side of the face.

If you, or anyone attending with you, is exempt from wearing a face covering, please contact us straight away using the contact details in your appointment letter. This is to make sure we have the right safety measures in place to keep you and our staff safe during your assessment. For more information about face coverings go to the government guidance on: