Amdanom Ni

Amdanom Ni

 

Beth yw’r Gwasanaeth Ymgynghorol Asesiad Iechyd?

Mae’r Llywodraeth yn talu amrywiaeth o fudd-daliadau i bobl heb waith neu os na allant weithio oherwydd cyflwr iechyd tymor hir. Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) angen gwybodaeth am iechyd pobl sy’n hawlio budd-daliadau.

Mae’r Gwasanaeth Ymgynghorol Asesiad Iechyd yn trefnu ac yn cynnal asesiadau ar ran y DWP. Diben yr asesiad yw deall sut y mae salwch neu anabledd yn effeithio ar fywyd pob dydd yr unigolyn. Ar ôl yr asesiad, bydd y DWP yn penderfynu a fydd yr unigolyn yn cael unrhyw fudd-daliadau. Mae’r Gwasanaeth Ymgynghorol Asesiad Iechyd yn cael ei ddarparu ar ran y DWP gan y Ganolfan ar gyfer Asesiadau Iechyd ac Anabledd, a weithredir gan MAXIMUS.

Mae’r Ganolfan ar gyfer Asesiadau Iechyd ac Anabledd yn gweithio mewn partneriaeth â’r DWP. Dysgwch Ragor…