Y Broses Asesu

Yn Ystod eich Asesiad

Cyfleusterau’r Ganolfan Asesu

Rydym yn ymdrechu i wneud eich ymweliad â’r Ganolfan Asesu mor gyfforddus â phosibl i chi. Mae ein derbynyddion wedi cael eu hyfforddi i’ch helpu ac i ateb eich cwestiynau.

Mae dyletswydd arnom i gadarnhau eich manylion hunaniaeth pan fyddwch yn cyrraedd y Ganolfan Asesu, neu pan fyddwn yn siarad â chi. Byddwn yn gofyn am tystiolaeth o’ch hunaniaeth pan fyddwch yn cyraedd y Ganolfan Asesu.

Cydymaith neu gwmni yn ystod eich asesiad

Mae croeso i chi ddod â pherthynas, gofalwr neu ffrind gyda chi. Er mai arnoch chi fydd yr asesiad yn canolbwyntio, gall cydymaith gynnig cymorth defnyddiol i chi.

Amser aros a hyd yr  asesiad

Byddwn yn gwneud ein gorau i’ch gweld cyn gynted â phosibl. Weithiau bydd yn rhaid i chi aros am eich apwyntiad. Bydd y derbynnydd yn dweud wrthych os bydd yn rhaid i chi aros.

Efallai y byddwch yn gweld pobl sydd wedi cyrraedd ar eich ôl chi’n cael eu galw i’w hasesiad o’ch blaen chi. Y rheswm am hyn yw ein bod yn cynnal gwahanol fathau o asesiadau ac mae rhai’n cymryd mwy o amser nag eraill. Nid oes amser penodol ar gyfer asesiadau, ond byddant fel arfer yn para rhwng 20 munud ac 1 awr.

Defnyddir eich asesiad i gasglu gwybodaeth. Nid ydym am weld eich asesiad yn cymryd mwy o amser nag sydd angen. Ar ôl eich asesiad, bydd ein Gweithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol yn cwblhau yr Adroddiad Asesiad a bydd y cyngor hwn wedyn yn rhan o’r dystiolaeth a ddefnyddir gan y Llywodraeth i wneud penderfyniad ar eich cais.

Gwneud nodiadau

Mae croeso i chi neu eich cydymaith wneud nodiadau at eich defnydd personol. Ni fydd eich nodiadau’n rhan o’r adroddiad meddygol y byddwn yn ei anfon at yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP).

Y Gweithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol

Mae ein Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol yn feddygon, nyrsys a ffisiotherapyddion. Maent i gyd wedi’u cofrestru â’u corff llywodraethu. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Y Cyngor Meddygol Cyffredinol
  • Y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
  • Y Cyngor Proffesiynau Gofal Iechyd.

Mae ein Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol yn dilyn cwrs hyfforddi sydd wedi’i gynllunio’n bwrpasol ar eu cyfer. Rhaid iddynt gael eu cymeradwyo gan Brif Gynghorydd Meddygol y DWP ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol.

Bydd y Gweithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol yn egluro’r asesiad wrthych. Bydd yn cofnodi gwybodaeth ar ffurflen gyfrifiadurol. Efallai na fydd rhai cwestiynau’n ymwneud yn uniongyrchol â’ch cyflwr meddygol, ond â’ch gweithgareddau o ddydd i ddydd.

Y cyfweliad asesu

Bydd y Gweithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol yn cyflwyno’i hun ac yn egluro’r hyn y bydd yn ei wneud. Bydd wedyn yn gofyn cwestiynau i chi ac yn ysgrifennu’r atebion.

Gall y cwestiynau yn yr asesiad gynnwys:

  • Pa bryd wnaeth eich salwch neu anabledd ddechrau
  • Ym mha ffordd mae eich cyflwr yn newid o ddydd i ddydd
  • Sut mae’n effeithio ar eich bywyd bob dydd
  • Sut mae’n effeithio ar eich hwyliau a sut yr ydych yn ymddwyn
  • Sut ydych chi’n ymdopi â phethau o ddydd i ddydd

Bydd y Gweithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol yn cofnodi gwybodaeth am eich poen, blinder a’r feddyginiaeth rydych yn ei chymryd.

Gan ddibynnu ar eich salwch neu’ch anabledd, gall yr asesiad gynnwys:

  • Archwiliad corfforol
  • Pwysedd gwaed, eich golwg, eich clyw a phrofion eraill
  • Symudiadau fel ymestyn, sefyll a phlygu

Ni fydd y Gweithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol yn gofyn i chi wneud unrhyw symudiadau sy’n anghyfforddus i chi. Os ydych chi’n poeni y gall rhai symudiadau achosi poen i chi, dywedwch wrth y Gweithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol.

Ein nod yw paratoi Adroddiad Asesu i’r DWP sy’n ddiduedd ac sy’n cynnwys gwybodaeth feddygol y gellir ei chyfiawnhau am y ffordd y mae eich cyflwr meddygol yn effeithio arnoch ar y pryd. Mae hyn yn cydymffurfio â deddfwriaeth y llywodraeth a’r prosesau y mae’r DWP wedi cytuno arnynt.

Parchu pawb

Yn ystod eich ymweliad byddwch yn eich trin ag urddas a pharch bob amser. Rydym yn ymwybodol y gall asesiad fod yn achos pryder i rai pobl. Rydym yn disgwyl hefyd y bydd ein staff yn cael eu trin ag urddas a pharch. Nid ydym yn goddef cam-drin geiriol nac ymddygiad amhriodol.