Eich Asesiad

Y Broses Asesu

 

Mae’r Gwasanaeth Ymgynghorol Asesiadau Iechyd yn trefnu ac yn cynnal asesiadau ar ran yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP). Os ydych chi’n hawlio budd-daliadau o ganlyniad i anabledd, anaf neu salwch, efallai y bydd y DWP yn gofyn i chi gael asesiad gan Weithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol fel rhan o’ch proses hawlio. Dysgwch fwy am beth sy’n digwydd cyn eich asesiad.

Mae ein Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol yn cynnal yr asesiadau, gan ddefnyddio meini prawf a amlinellwyd gan y Llywodraeth, ac yn rhoi cyngor annibynnol i’r DWP mewn Adroddiad Asesu. Dysgwch fwy am yr hyn sy’n digwydd yn ystod eich asesiad.

Mae Swyddog Penderfyniadau yr Adran Gwaith a Phensiynau yn adolygu’r Adroddiad Asesu, ynghyd ag unrhyw wybodaeth ychwanegol a gafwyd ganddynt, i benderfynu ar eich hawl i gael budd-dal. Nid ydym ni’n gwneud penderfyniad ar eich hawl i gael budd-dal. Bydd y DWP yn eich hysbysu o ganlyniad eich cais. Dysgwch fwy am beth sy’n digwydd ar ôl eich asesiad.

Ni allwn roi cyngor na barn ar ganlyniad eich cais. Gall Swyddog Penderfyniadau yr Adran Gwaith a Phensiynau ddefnyddio gwybodaeth arall wrth ystyried eich cais i gael budd-dal.  Nid ydym ni’n cael gwybod am ganlyniad penderfyniadau unigol ac nid oes gennym dargedau sy’n gysylltiedig â’r penderfyniadau a wneir.